Ruth 1:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o'u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro trwy'r holl dref o'u plegid, a'r merched yn gofyn, "Ai Naomi yw hon?"