Ruth 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a gyfododd, a'i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i'r ARGLWYDD ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld 'i bobl a rhoi bwyd iddynt.