Ruth 1:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac â minnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, "Ewch yn l adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau,