Ruth 2:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Moesymgrymodd hithau hyd y llawr a dweud wrtho, "Pam yr wyf yn cael y fath garedigrwydd gennyt fel dy fod yn cymryd sylw ohonof fi, a minnau'n estrones?"