Ruth 2:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th lawforynion di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Rwyt ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er mod i'n neb o'i gymharu â'r merched sy'n gweithio i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd hi, "Yr wyt yn garedig iawn, f'arglwydd, oherwydd yr wyt wedi cysuro a chalonogi dy forwyn, er nad wyf yn un o'th forynion di."