Ruth 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a'th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i'w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot!” A dyma Ruth yn esbonio ble roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, "Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot." Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, "Boas oedd enw'r dyn y bm yn llafurio gydag ef heddiw."