Ruth 2:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda'm llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Ruth y Foabes, "Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf."