Ruth 2:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda'i lancesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel na fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, "Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall."