Ruth 2:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o'r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Ruth yn mynd i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe aeth i'r caeau i loffa ar l y medelwyr, a digwyddodd iddi ddewis y rhandir oedd yn perthyn i Boas, y dyn oedd o dylwyth Elimelech.