Ruth 3:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr ARGLWYDD: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti'n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth wyt ti'n wneud nawr yn well na'r hyn wyt wedi ei wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o'r dynion ifanc, boed hwnnw'n dlawd neu'n gyfoethog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrthi, "Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio mynd ar l y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog.