Ruth 3:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i'r llawr dyrnu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Ruth yn cysgu wrth ymyl Boas tan y bore. Dyma hi'n deffro cyn iddi oleuo. Dwedodd Boas wrthi, “Does neb i gael gwybod fod merch wedi bod i'r llawr dyrnu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu.