Ruth 3:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a'i gosododd arni: a hi a aeth i'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti'n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi'n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrthi, "Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi." A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref.