Ruth 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Boas a aeth i fyny i'r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, "Tyrd yma ac eistedd i lawr." Aeth yntau ac eistedd.