Ruth 4:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn."