Ruth 4:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a'i rhoddai i'w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n l a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.