Ruth 4:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a'r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, "Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.