Song of Solomon 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i'r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw, oherwydd i'r haul fy llosgi. Bu meibion fy mam yn gas wrthyf, a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd; ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.