Song of Solomon 2:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd o'r golwg yn holltau'r graig a'r ogofâu ar y clogwyni! Gad i mi dy weld a chlywed dy lais; mae sŵn dy lais mor swynol, a'th olwg mor ddeniadol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig, yng nghysgod y clogwyni, gad imi weld dy wyneb, a chlywed dy lais, oherwydd y mae dy lais yn swynol, a'th wyneb yn brydferth.