Song of Solomon 3:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a'r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre — crwydro'r strydoedd a'r sgwariau yn chwilio am fy nghariad.” Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mi godais, a mynd o amgylch y dref, trwy'r heolydd a'r strydoedd; chwiliais am fy nghariad; chwilio, ond heb ei gael.