Song of Solomon 4:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad, tyrd gyda mi o fryniau Libanus. Tyrd i lawr o gopa Amana, o ben Senir, sef copa Hermon; Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod a lloches y llewpard.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon, tyrd gyda mi o Lebanon; tyrd i lawr o gopa Amana, ac o ben Senir a Hermon, o ffeuau'r llewod a mynyddoedd y llewpardiaid.