Song of Solomon 5:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deuthum i'm gardd, fy chwaer, a'm dyweddi: cesglais fy myrr gyda'm perarogl, bwyteais fy nil gyda'm mêl, yfais fy ngwin gyda'm llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad — i gasglu fy myrr a'm perlysiau, i flasu y diliau a'r mêl, ac i yfed y gwin a'r llaeth. Mwynhewch y wledd gariadon! Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch; cesglais fy myrr a'm perlysiau, a bwyta fy niliau a'm ml, ac yfed fy ngwin a'm llaeth. Gyfeillion, bwytewch ac yfwch, nes meddwi ar gariad.