Song of Solomon 5:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Agorais i'm hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni'm hatebodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Agorais y drws i'm cariad, ond roedd e wedi troi a mynd! Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth. Chwiliais amdano, ond methu ei gael; Gelwais arno, ond doedd dim ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan agorais i'm cariad, yr oedd wedi cilio a mynd ymaith, ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd; chwiliais amdano, ond heb ei gael; gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.