Song of Solomon 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ferched Jerwsalem, gwrandwch — Os dewch chi o hyd i'm cariad, dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Os dewch o hyd i'm cariad, dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.