Song of Solomon 6:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae hi'n unigryw, fy ngholomen berffaith. Merch arbennig ei mam; hoff un yr un â'i cenhedlodd. Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld yn ei hedmygu; Mae pob brenhines a chariad yn canu am ei harddwch:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.