Song of Solomon 7:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n dal dy ben yn uchel fel Mynydd Carmel ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel a gwallt dy ben fel porffor, a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.