Titus 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys bot llawer o rei anyvydd, a’ gwacsiaradwyr, a’ thwyllwyr meddilieu, yn ben af yr ei ’sy or enwaediat,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y mae llawer yn afreolus, yn ofer-siaradus a cham-arweinwyr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae llawer yn anhydrin, yn twyllo meddyliau â’u gwag resymau, yn enwedig plaid yr enwaediad;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o'r enwaediad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae llawer iawn o bobl allan yna sy'n tynnu'n groes i'r gwir. Dw i'n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy'n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd trwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae llawer, ac yn arbennig y credinwyr Iddewig, yn afreolus, ac yn twyllo dynion 'u dadleuon diffaith;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae llawer yn afreolus, ofer‐siaradus, a thwyllwyr, yn enwedig y rhai o'r Enwaediad,