Titus 1:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei vydd dir goarcheu‐ei geneu, yr ei a dd ymchwelant cwbl dai e, gan ddyscu i ’rei betheu ny‐ðylent, ermwyn budr elw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn enwedig y rhai o’r amdorriad, y rhai y mae rhaid cau eu safnau; y rhai, tai cyfan a ddymchwelant, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr elw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
rhaid rhoi taw ar y rhain; dymchwelant deuluoedd cyfain trwy ddysgu’r hyn na ddylid, er mwyn budrelw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu'r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau'ch arian chi maen nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac fe ddylid rhoi taw arnynt. Pobl ydynt sydd yn tanseilio teuluoedd cyfan drwy ddysgu iddynt bethau na ddylent eu dysgu, a hynny er mwyn elw anonest.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai y mae rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn ansefydlu teuluoedd cyfain, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr‐elw.