Titus 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vn o hanynt wy euhunain, ’sef vn oi prophwyti y vnain a ddywedei. Y Creteit bop amser ynt gelwyddawc, dryg vestviloedd, boliae gord diog ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd rhyw un o honynt, prophwyd o honynt eu hunain, “Cretiaid bob amser yn gelwyddwyr, drwg fwystfilod, boliau diog.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fe ddywed rhyw broffwyd ohonynt hwy eu hunain, “Celwyddwyr yw’r Cretiaid erioed, anfad anghenfilod, boliau gorddïog.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Un ohonynt hwy eu hunain, un o'u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae un o'r Cretiaid eu hunain, un sy'n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud, “Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog — bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd un ohonynt, un o'u proffwydi hwy eu hunain: "Celwyddgwn fu'r Cretiaid erioed, anifeiliaid anwar, bolrwth a diog."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd un o honynt hwy eu hunain, prophwyd o'r eiddynt eu hunain, “Cretiaid ydynt bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, gloddestwyr gorddiog.”