Titus 1:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y maent yn proffessu yr adwaenant D d uw, eithyr ar g weithrrdoedd y maent yn ei wadu, ac wynt yn ffiaidd ac yn anuvydd, ac i bop gwaith red d d a yn amprovadwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Adnabod Duw a broffesant, ond â’u gweithredoedd y gwadant Ef, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymmeradwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Proffesant adnabod Duw, eithr mewn gweithredoedd fe’i gwadant. Ffiaidd ac anufudd ydynt, a diwerth at unrhyw waith da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n honni eu bod nhw'n nabod Duw, ond maen nhw'n ei wadu drwy beth maen nhw'n ei wneud. Pobl gwbl atgas ydyn nhw, ac anufudd i Dduw. Allan nhw wneud dim byd da!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn proffesu eu bod yn adnabod Duw, ond ei wadu y maent 'u gweithredoedd. Y maent yn ffiaidd ac yn anufudd, ac yn anghymwys i unrhyw weithred dda.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw, ond trwy eu gweithredoedd gwadant ef, gan fod yn ffiaidd, ac anufudd, ac yn anaddas i bob gweithred dda.