Titus 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ef a eglurhaodd ei ’air yn y gwir amser eu drwy preceth u, yr hyn a ymddiriedwyt i mi, wrth ’orchymyn Duw ein iachawd u r:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a amlygodd yn Ei amseroedd priodol Ei air yn y Cyhoeddiad a ymddiriedwyd i myfi yn ol gorchymyn ein Hiachawdwr Duw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(do, mewn iawn bryd fe hysbysodd ei air trwy bregethu, a hyn a ymddiriedwyd i mi yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ef hefyd yn ei amser ei hun a ddatguddiodd ei air yn y neges a bregethir. Ymddiriedwyd y neges hon i mi ar orchymyn Duw, ein Gwaredwr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn ei amseroedd priodol a amlygodd ei Air yn y Gennadwri a ymddiriedwyd i mi yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;