Titus 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s bydd nep diargywedd, gwr vn wreic, ac yddo blant ffyddlon, yr ei nyd enllybir o nwyfiāt neu vot yn anuvydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a phlant ganddo yn credu, heb eu cyhuddo o afradlondeb, nac yn afreolus:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
od oes neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant yn credu, nas cyhuddir o fod yn afradlon nac yn anhydrin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn u373?r i un wraig, a'i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant yn credu, heb eu cyhuddo o afradlonedd, ac yn afreolus: