Titus 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
EIthr adrodd di y petheu y weddant y ddysc iach us.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond tydi, llefara’r pethau a weddant i’r athrawiaeth iachus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr llefara di yr hyn sydd yn gweddu i ddysgeidiaeth iach:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr llefara di'r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, gwna'n siŵr dy fod ti'n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy'n gyson â dysgeidiaeth gywir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr llefara di y pethau a weddant i'r athrawiaeth iachus: