Titus 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd yn trosgwyddo, eithr bod yddynt ddangos pop ffyddlondep, val yr addurnant ddysc eideth Duw ein iachawd u r ym‐pop peth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid yn gwrth-ddywedyd, nid yn darn-guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel athrawiaeth Dduw ein Hiachawdwr yr addurnont ym mhob peth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
heb eu hateb yn ôl na chwiwladrata, eithr o ewyllys da yn eu profi eu hunain yn gwbl ffyddlon, fel yr addurnont ym mhopeth ddysgeidiaeth Duw ein Hiachawdwr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
na dwyn oddi arnyn nhw, ond dangos bod eu meistri'n gallu eu trystio nhw'n llwyr. Wedyn bydd pobl yn cael eu denu at beth sy'n cael ei ddysgu am y Duw sy'n ein hachub ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
na lladrata oddi arnynt, ond i'w dangos eu hunain yn gwbl ffyddlon a gonest, ac felly yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid yn darn‐guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel yr addurnont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.