Titus 2:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ys ydd in dyscu y ymwadu ac andywoldep, a’ chwanteu bydol, a’ bot y ni vyw yn sobr ac yn gyfiawn, ac yn ddywiol yn y byt cydrychiol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a’r chwantau bydol, y bo i ni fyw â meddyliau sobr, ac yn gyfiawn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ein cyfarwyddo, fel, trwy ymwadu ag annuwiaeth a nwydau bydol, y byddom fyw yn syber, yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd presennol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a chwantau bydol, y bo i ni fyw yn ddoeth, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol,