Titus 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn y rroddes y hun y trosam, val in prynei ywrth oll enwiredd, a’n carthu y v ot yn popul priawt yddo yhun, yn awyddus i weithredoedd da.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn a’i rhoddes Ei hun trosom, fel y prynai ni oddiwrth bob anghyfraith, ac y’n purai Iddo Ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom i’n rhyddhau ni o bob anghyfraith, a’n puro iddo’i hun yn bobl briod, eiddgar i weithredoedd da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e wedi marw troson ni i'n rhyddhau ni o afael popeth drwg, ac i'n glanhau ni a'n gwneud ni'n bobl iddo fe'i hun — pobl sy'n frwd i wneud daioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sl dros weithredoedd da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, fel y'n prynnai oddiwrth bob annghyfraith; ac y'n purai iddo ei hun yn bobl yn feddiant iddo ei hun, selog i weithredoedd da.