Titus 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Adrodd y petheu hyn, ac annoc ac argywedda ac oll awdurtot. Na vit y nep dy dremygu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na fydded i neb dy ddirmygu di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pethau hyn llefara; annog hefyd ac argyhoedda â phob awdurdod; na chaffed neb dy ddiystyru.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddylet ti ei ddysgu. Annog pobl i wneud y pethau yma. Cywira nhw pan mae angen. Mae'r awdurdod wedi ei roi i ti, felly paid gadael i neb dy ddiystyru di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed y pethau hyn, a chymell a cherydda phob awdurdod. Peidied neb 'th anwybyddu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn llefara a chynghora ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.