Titus 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr henafwragedd yr vnffynyt, eu bot ynghyfryw ymwreðiat ac a wedda i sancteiddrwydd, nyd gau gyhuddiait, nyd wedy ymroi i win lawer, eithr yn dyscu-ir‐ei betheu honest,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r hynaf-wragedd, yr un ffunud, fod mewn ymddygiad yn hybarch, nid yn enllibaidd, nac wedi eu caethiwo i win lawer,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhaid i’r hynafwragedd yr un modd fod yn barchedig eu hymarweddiad, nid yn enllibus, nid chwaith yn gaeth i flys gwin, yn ddyrchafol eu haddysgiadau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bod o'r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dysga'r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy'n gwasanaethu'r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy'n dda,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
bod hynaf‐wragedd, yr un modd, yn eu hymddygiad fel y gwedda i rai sanctaidd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn dysgu yr hyn sydd dda,