Titus 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ymadrodd iach us, rhwn ny ellir ei veio, val y bo y hwn a safo yn erbyn, gywilyðio, eb ganthaw ddim am danochwi y dywedyt coeg n i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
difrifoldeb, ymadrodd iach na ellir ei gondemnio, fel y bo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim sydd ddrwg i’w ddywedyd am danom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’th neges yn iach ac uwchlaw beirniadaeth, fel y cywilyddier y gwrthwynebydd ac na byddo ganddo ddim bychanus i’w ddywedyd amdanom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i'w ddywedyd amdanoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna'n siŵr dy fod yn dysgu beth sy'n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny'n codi cywilydd ar y rhai sy'n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i'w ddweud amdanon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ymadrodd iachus nas gellir ei gondemnio; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim iselwael i'w ddywedyd am danom.