Titus 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan wybot am y cyfryw, yddymchwelwyt, ai vot yn pechu wedy varnu y cantho yhun an.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod y gŵyr-drowyd y cyfryw ddyn, a phechu y mae, yn gondemniedig ganddo ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan wybod fod y cyfryw un yn ŵyrgam, yn pechu ac yn ei gondemnio ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyr‐droi ac yn pechu, ac yn hunan‐gondemniedig.