Titus 3:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
D anvon Zenas y Deðfwr, ac Apollos yn ddiwyd, val na bo arnynt eisieu dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Senas y cyfreithiwr, ac Apolos, hebrwng yn ddyfal fel na bo arnynt eisiau dim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hebrwng i’w taith yn galonnog Senas y cyfreithiwr ac Apolos, fel na bo eisiau dim arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gyda gofal anfon ym mlaen Zenas y Cyfreithiwr, ac Apollos ar eu taith, fel na byddo arnynt eisieu dim.