Titus 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr oll ’rei ’sy gyd a mi vi, ath anerchant. Anerch yr ei an carant yn y ffydd. Rat gyd a chwi oll. Ad Titus, y ddewysiwyt yn E pi scop cyntaf i Eccles y Cretieit, yr hwn escrivenwyt o Nicop o lis ym‐Macedonia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dy annerch y mae’r holl rai sydd gyda mi. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni mewn ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fe’th gyfarch fy nghymdeithion oll. Cyfarch ein caredigion yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae'r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen. At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb sydd yma gyda mi yn cofio atat ti. Cofia di ni hefyd at bawb sy'n credu ac yn ein caru ni. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yr holl rai sydd gyda mi yn dy gyfarch. Cyfarch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.