Titus 3:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na chablant nep, na bot yn ymladdwyr, anyd llednais, gan ðangos pop tiriondep i bop dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i beidio â chablu un dyn; i fod yn anymladdgar, yn dirion, yn dangos pob addfwynder tuag at bob dyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
heb ddifenwi neb, yn ddi-gynnen, yn deg, gan ddangos pob tiriondeb tuag at ddynion oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i beidio bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
bod heb gablu neb, i fod yn anymrysongar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.