Titus 3:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd o weithredreð cyfiawnder, a’r y wnaethem ni, eithr erwydd ei drugaredd yr iachaodd ef ny ni, can ’olchiat yr adenedigeth, ac adnewyddiat yr Yspryt glan,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid o weithredoedd mewn cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol Ei drugaredd Ef Ei hun yr achubodd ni trwy noe adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd Glân,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid am weithredoedd cyfiawn a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd ef, fe’n hachubodd trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Gln,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid o weithredoedd mewn cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd Glân,