Titus 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Val y bei y ni, gwedy ein cyfiawnhau gan y rat ef, gael yn gwneuthur yn etiveddion erwydd gobaith bywyt tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel, wedi ein cyfiawnhau trwy Ei ras Ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel, wedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y delem mewn gobaith yn etifeddion bywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y'n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel, gwedi ein cyfiawnhâu trwy ei ras ef, y'n gwnelid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol.