Titus 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Fyddlawn yw’r ymadrodd hyn, a’r petheu a wyllysiaf yty eu ffyrfhau, ar ir sawl a credant yn‐Duw, ymovalu y ddangos yn amlwc g weithredoedd da. Y petheu y’ sy yn dda acyn profitiol y ddynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
credadwy yw’r ymadrodd; ac am y pethau hyn y mynnaf i ti lefaru yn bendant, fel y gofalo’r rhai a gredasant i Dduw ar arferu gweithredoedd da.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwir yw y gair, ac ar y gwirioneddau hyn yr wyf am iti roddi pwys, fel y gofalo’r rhai a gredodd yn Nuw flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwir yw'r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir! Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ffyddlawn yw y gair, ac am y pethau hyn mi a ewyllysiwn i ti lefaru yn groyw, fel y byddo i'r sawl sydd wedi credu i Dduw ofalu bod yn flaenllaw mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.