Titus 3:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr gwrthladd questione ynvydion, ac i achae, a’ chynneneu ac ymrysongerdd o bleit y Ddeðyf, can ys amprofitiol ynt a’ gweigion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn ydynt dda a buddiol i ddynion: ond cwestiynau ynfyd, ac achau, a chynhenau, ac ymladdau ynghylch y Gyfraith, gochel; canys y maent yn anfuddiol ac ofer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr ffôl ddyfaliadau, ac achau a chynnen ac ymrysonau ynglŷn â’r gyfraith, gochel, canys di-fudd ac ofer ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt — mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gochel gwestiynau ffl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond gochel gwestiynau ffol, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonnau ynghylch y Gyfraith; canys y maent yn anfuddiol ac ofer.