Zechariah 1:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon."