Zechariah 1:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi yn dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Peidiwch bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,' medd yr ARGLWYDD.