Zechariah 1:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond daeth y cwbl ddywedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?'"