Zechariah 1:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo — rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i l yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.